Skip to main content

Hi! My name is Shoruk, I’m from a Libyan background and Cardiff has been my home for the past 12 years. My relationship with the Grange Pavilion Youth Forum, a part of the  Community Voices Cardiff/CCQOL research project in Cardiff, is a personal one. 

After graduating from the Welsh School of Architecture, I spent a few weeks in limbo zone, really questioning where I, and the rest of the industry is heading; how can I link my life as this Grangetown girl and a career in the built environment? I remember mentioning in a mentoring session how there were no other girls in my engineering class in school, and Ali (Grangetown Pavilion CIO) and Mhairi (CCQOL Cardiff Investigator) reached out and provided the guidance I needed. Six years later, still interested in design and the values it can promote, I am Co-Director of Grange Pavilion Youth Forum.

As part of the Community Voices Cardiff/CCQOL project, we will be hosting a month of events this venue in May. The events will be based on four main themes and I will be looking specifically at young peoples’ voices in the consultation process, in collaboration with our Youth Forum, the Child Friendly City team and other projects happening locally. 

My favourite part of my week is any time I get to spend with our Grangetown family and seeing the physical space fill up and change by the hour. Something special about the place is that it’s hard to distinguish who works there, who is a resident and who is a volunteer, because we’ve all become very immersed in caring for the place. Allowing the community to have a shared, protected, safe space where it – not only selected individuals – are in charge, without the pressure of trying to integrate into a new system is a major part of why relationships have stayed tight.

Being involved in the CCQOL project, even just a few weeks in, I’m learning that social values, community engagement and our quality of life should not be compromised – it can be integrated into any demographic and/or lifestyle.

It is important to look at consultation on all scales, and not dismiss the casual, daily conversations we have with locals, as these hold the most value. It is also important to translate the conversations being held to policy makers and people who then write things on paper. 

Young people have a right to speak up and be heard, under Article 12, so we need to take individual responsibility to make this the case. We should be concerned with making sure children and young people feel able to express their opinions in spaces and platforms they feel they belong. 

It is about time we get passed the complexities and formalities that filter out a lot of our community members and break down power and intellectual hierarchies. 

There is a lot of momentum within young people in Cardiff, and many groups forming to discuss their rights; questioning community spaces and whether they feel welcomed, and comfortable, being there. 

If you come to visit the Pavilion, keep an eye out for the chairs I designed.

 

Helo! Fy enw i yw Shoruk. Dwi’n dod o gefndir Libiaidd ac mae Caerdydd wedi bod yn gartref i mi am y 12 mlynedd diwethaf. Mae fy mherthynas â Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, sy’n rhan o brosiect ymchwil Lleisiau Cymunedol Caerdydd/CCQOl yng Nghaerdydd, yn un personol.

Ar ôl graddio o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, treuliais ychydig wythnosau mewn cyflwr o ansicrwydd, yn cwestiynu i ble rydw i a gweddill y diwydiant yn mynd; sut alla i gysylltu fy mywyd fel y ferch hon o Grangetown a gyrfa yn yr amgylchedd adeiledig? Rwy’n cofio sôn mewn sesiwn fentora sut nad oedd merched eraill yn fy nosbarth peirianneg yn yr ysgol, ac fe wnaeth Ali (CIO Pafiliwn Grangetown) a Mhairi (Ymchwilydd CCQOL Caerdydd) estyn allan a darparu’r arweiniad yr oeddwn ei angen. Chwe blynedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i ymddiddori mewn dylunio a’r gwerthoedd y gall eu hyrwyddo ac rwy’n Gyd-Gyfarwyddwr Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange.

Fel rhan o brosiect Lleisiau Cymunedol Caerdydd/CCQOL, byddwn yn cynnal mis o ddigwyddiadau yn y lleoliad hwn ym mis Mai. Bydd y digwyddiadau’n seiliedig ar bedair prif thema a byddaf yn edrych yn benodol ar leisiau pobl ifanc yn y broses ymgynghori, mewn cydweithrediad â’n Fforwm Ieuenctid, y tîm Dinas sy’n Croesawu Plant a phrosiectau eraill sy’n digwydd yn lleol.

Fy hoff ran o fy wythnos yw unrhyw gyfle rwy’n ei gael i dreulio gyda’n teulu yn Grangetown a gweld y gofod ffisegol yn llenwi ac yn newid bob awr. Rhywbeth arbennig am y lle yw ei bod yn anodd gwahaniaethu rhwng pwy sy’n gweithio, pwy sy’n byw yno a phwy sy’n gwirfoddoli, oherwydd rydyn ni i gyd wedi ymgolli yn y gwaith o ofalu am y lle. Mae caniatáu i’r gymuned gael lle diogel a rennir, gwarchodedig lle mae hi – nid unigolion dethol yn unig – wrth y llyw, heb y pwysau o geisio integreiddio i system newydd, yn rhan bwysig o pam mae perthnasoedd wedi parhau’n glos.

Gan fy mod yn cymryd rhan yn y prosiect CCQOL, hyd yn oed ychydig wythnosau ar ôl dechrau, rwy’n dysgu na ddylid peryglu gwerthoedd cymdeithasol, ymgysylltu â’r gymuned a’n hansawdd bywyd – gellir eu hintegreiddio i unrhyw ddemograffig a/neu ffordd o fyw.

Mae’n bwysig edrych ar ymgynghori ar bob graddfa, a pheidio â gwrthod y sgyrsiau achlysurol, dyddiol a gawn gyda phobl leol, gan mai’r rhain sydd fwyaf gwerthfawr. Mae hefyd yn bwysig cyfleu’r sgyrsiau sy’n cael eu cynnal i lunwyr polisïau a phobl sydd wedyn yn ysgrifennu pethau ar bapur.

Mae gan bobl ifanc hawl i godi llais a chael eu clywed, o dan Erthygl 12, felly mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb unigol dros gyflawni hyn. Dylem sicrhau bod plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu mynegi eu barn mewn gofodau a llwyfannau y teimlant eu bod yn perthyn iddynt.

Mae’n hen bryd i ni oresgyn y cymhlethdodau a’r ffurfioldebau sy’n eithrio llawer o aelodau’n cymuned a chwalu pŵer a hierarchaethau deallusol.

Mae llawer o fomentwm ymhlith pobl ifanc yng Nghaerdydd, ac mae llawer o grwpiau’n ffurfio i drafod eu hawliau, gan gwestiynu mannau cymunedol ac a ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, ac yn gyfforddus bod yno.

Os dewch i ymweld â’r Pafiliwn, cadwch lygad allan am y cadeiriau a gynlluniais.