
Hi, I’m Mymuna Soleman. I’m of Somali origin and was born and bred in Cardiff, Wales. I have a huge passion for equality and diversity but, most importantly, equal representation for Muslim women of colour like myself in spaces and places where representation of people like myself is low.
I studied Health and Social Care at Undergraduate level and my Master’s in Public Health, both obtained from Cardiff Metropolitan University, then went into various jobs in call centres working in Public Health for Public Health Wales. As we got into Lockdown, I became frustrated with the lack of spaces online diversity and that I couldn’t express myself as a woman of colour in spaces filled with privilege, so set up The Privilege Café in April 2020.
The Privilege Café
This virtual café is a safe, open forum where we discuss white privilege and race and how they correlate. To date, I have held over 50 sessions online, attracting over 5,000 people including Ministers from the Senedd (Welsh Parliament), senior individuals from equalities and cultural organisations, the creative sector and even elected members from different political parties. These sessions have included ‘Mental Health and Privilege’, ‘Language and Linguistics’, ‘Unconscious bias’, ‘Privilege and Funding’, ‘The impact of White Privilege Education’ and various other topics where we discussed ways to tackle privilege and institutional bias with the focus of uplifting marginalised voices.
I created the Café as I was frustrated with this whole ‘systems’ approach, which is very formal and agenda-based. I wanted the Café to be the opposite of that. Once I decide on a theme and a title for discussion, I put out a call out on social media for anyone interested to speak for a 10-15 mins or so and then open it out for open questions and discussions. It’s a very informal space, so anyone is welcome to come, learn and discuss ‘difficult’ topics but, most importantly, how people can use their privilege for good. In essence, the Privilege Café give a voice and space to the voiceless.
My role as Community Partnerships Manager
Through my new role with CCQOL as Community Partnerships Manager, I’m hoping to use the skills, networks, connections and contacts that I’ve gained through the café and to build on my passion for community participation, engagement and tailored consultation. I want to put forth the voice of the most marginalized, which is the ethos that my cafe was built on.
As a person of colour who faces the triple-glazed ceiling not only of being Muslim, but Black and a female too, intersectionality is key to any project I undertake. I was able to demonstrate the importance of taking this into account when I worked with the Welsh Government on their Race Equality Action Plan. I was invited to be part of this huge change in Wales becoming an Anti-Racist nation by 2030, where I joined Ministers to ensure that the grant process was fair and equitable. This consultation included various meetings with different community groups and individuals like myself where I suggested that the grant process allowed people to consult in their community languages, via WhatsApp voice notes or whatever form they felt comfortable with.
Making sure voices are heard
Whenever I’ve worked with community members, my neighbours or the local chip shop manager, I’ve made sure that their voice was heard. I haven’t spoken for them or ‘worked on’ them: instead, I have given them an opportunity to share their thoughts have provided them with a safe space to do this, and then connected them with the right people in power to make positive change for all parties involved. I’m a listener, communicator and very much a people person; I’ll be that person asking a question in an event full of white, middle-class men about race relations and white privilege. I’m also that person who will email the same people I met in that event and ask them how they can use their privilege for good, connect with them and arrange a session to get the voices of the seldom heard to have their voices heard in a space they feel safe in, whilst making sure practical steps and action are taken by those with power and privilege.
My aim for this project is to engage with as many people as I can, to tell them about the project but also to put forth the case that this isn’t about tokenism. It isn’t about ‘taking’ views or wasting people’s time in a project that does not go anywhere. I will work hard to build positive connections, raising awareness of community consultation done differently, listening meaningfully, work collaboratively, take critical criticism to do better before the ‘Urban Room’, after the ‘Urban Room’ and even after the project finishes; I want to see how the seeds I’ve planted will grow and flourish.
Helo, Mymuna Soleman yw fy enw i. Rwyf o dras Somalaidd a ches i fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, Cymru. Rwy’n angerddol iawn am gydraddoldeb ac amrywiaeth, ond, yn anad dim, cynrychiolaeth gyfartal i fenywod Mwslimaidd o liw, fel fi fy hun, mewn mannau a lleoedd lle nad oes llawer o bobl fel fi yn cael eu cynrychioli.
Astudiais Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar lefel Israddedig ac yna gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Yna, fe gefais swyddi amrywiol mewn canolfannau galwadau sy’n gweithio ym maes Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Wrth i’r cyfyngiadau symud lacio, roeddwn yn rhwystredig dros y diffyg mannau amrywiaeth ar-lein, ac ni allwn fynegi fy hun fel menyw o liw mewn mannau llawn braint, felly sefydlais i’r Caffi Braint ym mis Awst 2020.
Caffi Braint
Mae’r caffi rhithwir hwn yn fforwm diogel, agored lle rydym yn trafod braint pobl wyn a hil a sut maent yn cydberthyn. Hyd yma, rwyf wedi cynnal dros 50 o sesiynau ar-lein, gan ddenu dros 5,000 o bobl, gan gynnwys Gweinidogion o Senedd Cymru, unigolion uwch o sefydliadau cydraddoldeb a diwylliannol, y sector creadigol a hyd yn oed aelodau etholedig o wahanol bleidiau gwleidyddol. Mae’r sesiynau hyn wedi cynnwys ‘Iechyd Meddwl a Braint’, ‘Iaith ac Ieithyddiaeth’, ‘Rhagfarn Ddiarwybod’, ‘Braint a Chyllido’, ‘Effaith Addysg Braint Pobl Wyn’ a phynciau amrywiol eraill lle buom yn trafod ffyrdd o fynd i’r afael â braint a rhagfarn sefydliadol gyda ffocws ar roi hwb i leisiau ymylol.
Creais y Caffi gan fy mod yn rhwystredig gyda’r dull ‘systemau’ cyfan hwn, sy’n ffurfiol iawn ac yn seiliedig ar agenda. Roeddwn i eisiau i’r caffi fod y gwrthwyneb i hynny. Unwaith y byddaf yn penderfynu ar thema a theitl ar gyfer trafodaeth, rwy’n rhoi galwad ar y cyfryngau cymdeithasol i unrhyw un sydd â diddordeb siarad am 10-15 munud neu fwy, ac yna’n ei agor allan ar gyfer cwestiynau agored a thrafodaethau. Mae’n ofod anffurfiol iawn, felly mae croeso i unrhyw un ddod, dysgu a thrafod pynciau ‘anodd’ ond, yn bwysicaf oll, sut y gall pobl ddefnyddio eu braint am byth. Yn ei hanfod, mae’r Caffi Braint yn rhoi llais a lle i’r di-lais.
Fy rôl fel Rheolwr Partneriaethau Cymunedol
Trwy fy rôl newydd gyda CCQOL fel Rheolwr Partneriaethau Cymunedol, rwy’n gobeithio defnyddio’r sgiliau, y rhwydweithiau, y perthnasoedd a’r cysylltiadau rydw i wedi’u datblygu drwy’r caffi ac adeiladu ar fy angerdd am gyfranogiad cymunedol, ymgysylltu ac ymgynghori wedi’i deilwra. Rwyf am roi llais i’r rhai mwyaf ymylol, sef yr ethos y cafodd fy nghaffi ei adeiladu arno.
Fel person o liw sy’n wynebu’r tri rhwystr enfawr o fod yn Fwslimaidd, yn ddu ac yn fenyw hefyd, mae croestoriadedd yn allweddol i unrhyw brosiect rwyf yn ymgymryd ag ef. Roeddwn yn gallu dangos pwysigrwydd ystyried hyn pan oeddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar eu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Cefais wahoddiad i fod yn rhan o’r newid enfawr hwn wrth i Gymru ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, lle ymunais â’r Gweinidogion i sicrhau bod y broses grantiau yn deg ac yn gydradd. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys cyfarfodydd amrywiol gyda gwahanol grwpiau cymunedol ac unigolion fel fi, lle awgrymais fod y broses grantiau yn caniatáu i bobl ymgynghori yn eu hieithoedd cymunedol, trwy nodiadau llais WhatsApp neu ba bynnag ffurf yr oeddent yn teimlo’n gyffyrddus ag ef.
Sicrhau bod lleisiau’n cael eu clywed
Pryd bynnag rydw i wedi gweithio gydag aelodau’r gymuned, fy nghymdogion neu reolwr y siop sglodion leol, rydw i wedi gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed. Nid wyf wedi siarad drostynt na ‘gweithio’ arnyn nhw. Yn hytrach, rwyf wedi rhoi cyfle iddynt rannu eu meddyliau, wedi rhoi lle diogel iddynt wneud hyn, ac yna wedi’u cysylltu â’r bobl iawn sydd mewn grym i wneud newid cadarnhaol i’r holl bartïon dan sylw. Rwy’n wrandäwr, yn gyfathrebwr ac yn berson pobl i raddau helaeth; fi yw’r unigolyn hwnnw sy’n gofyn cwestiwn mewn digwyddiad llawn dynion gwyn, dosbarth canol am gysylltiadau hiliol a braint pobl wyn. Fi hefyd yw’r unigolyn hwnnw a fydd yn anfon ebost at yr un bobl y cyfarfûm â nhw yn y digwyddiad hwnnw ac yn gofyn iddynt sut y gallant ddefnyddio eu braint am byth, cysylltu â nhw a threfnu sesiwn i sicrhau bod lleisiau’r rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml yn cael eu clywed mewn lle y maent yn teimlo’n ddiogel ynddo, wrth sicrhau bod y rhai sydd â phŵer a braint yn cymryd camau ymarferol ac yn gweithredu.
Fy nod ar gyfer y prosiect hwn yw ymgysylltu â chynifer o bobl ag y gallaf, i ddweud wrthyn nhw am y prosiect ond hefyd i gyflwyno’r achos nad yw hyn yn ymwneud â symboleiddiaeth. Nid yw’n ymwneud â ‘chymryd’ barn na gwastraffu amser pobl mewn prosiect nad yw’n mynd i unman. Byddaf i’n gweithio’n galed i feithrin cysylltiadau cadarnhaol, codi ymwybyddiaeth o ymgynghori cymunedol gwahanol, gwrando’n ystyrlon, derbyn beirniadaeth i wneud yn well cyn ac ar ôl yr Ystafell Drefol, a hyd yn oed ar ôl i’r prosiect ddod i ben; rwyf i am weld sut y bydd yr hadau rwyf i’n eu plannu yn tyfu ac yn ffynnu.