Skip to main content

This post was written by Dr Mhairi McVicar, Reader, Welsh School of Architecture, and Academic Lead of Community Gateway, Cardiff University.

As a co-investigator in Community Consultation for Quality of Life (CCQoL) research launching across the UK in Reading, Cardiff, Edinburgh and Belfast, Dr Mhairi McVicar is continuing long-established collaborations between Grangetown, Cardiff and Cardiff University’s Community Gateway.

In 2011, Cardiff University began holding conversations with Grangetown residents about ways in which organisations and institutions such as Universities could create and strengthen partnerships in local areas to develop mutually beneficial, long-lasting projects with tangible impact. Working to coproduction and appreciative inquiry principles, collaborations began with a focus on valuing what already exists, physically and culturally, in the area. In developing the momentum and resources to bring resident-led ideas to life, consultation was understood as being more than one-off event. In Grangetown, a decade of annual public events, workshops with groups of varying ages and interests, regular partnership activities and annual priority surveys have sat alongside alongside ongoing 1-1 conversations, and have led to the redevelopment of the Grange Pavilion, a series of Grangetown World Street Markets, annual Grangetown Careers and Role Model weeks, a weekly Grange Pavilion Youth Forum, the developing Grangetown Play Lanes projects, and many others.

The Grange Pavilion, as the first resident-led idea developed with Community Gateway over the past decade, will be the focal point for the CCQoL Cardiff pilot in 2022. The Grange Pavilion CIO, constituted as 60% resident membership with Cardiff University, Cardiff and Vale College, Taff Housing, RSPB Cymru and Cardiff Bay Rotary Club as institutional partners, have taken on the 99-year Community Asset Transfer lease of a former Bowls Pavilion and grounds in a popular neighbourhood park, Grange Gardens. Launched in 2020, the Grange Pavilion defines itself as an accessible and inclusive space to support creative and diverse community-led projects. Hosting events and regular activities spanning arts, health and education, the Grange Pavilion, as a civic space activated and managed by a community, brings a physical focus in the heart of Grangetown to an extended series of conversations and collaborations across local area communities about the meanings, applications and implications of community engagement, involvement, and consultation. 

These conversations sit in the context of Wales’ unique statutory requirement for public bodies to think about the long-term impact of their decisions. The Well-being of Future Generations (Wales) Act (2015) details seven legally-binding well-being goals which require that public bodies work collaboratively towards improving the well-being of Wales. The Act’s Five Ways of Working – collaboration, integration, involvement, long-term and prevention – defines the approach taken in Wales towards national conversations and public participation at national, regional and local levels. At a local level, Cardiff Council’s commitments to a Child Friendly City  and an Active Travel Network, and current development of a Replacement Local Development Plan 2021 to 2036 will be explored in the pilot alongside key priority areas defined by Grangetown residents in workshops and surveys over the last decade, including Clean Streets and Green Spaces, Safe Grangetown, Provision for Young People and Community Spaces. The CCQol Cardiff pilot will embed the Five Ways of Working, collaborating across Grangetown’s multiple communities towards achieving the Future Generations’ focus on long-term and joined-up thinking to achieve common purposes.

 

Ysgrifennwyd y darn hwn gan Dr Mhairi McVicar, Darllenydd, Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ac Arweinydd Academaidd Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd.

 

A hithau’n gyd-ymchwilydd ar gyfer gwaith ymchwil yr Ymgynghoriad Cymunedol ar gyfer Ansawdd Bywyd (CCQOL) sy’n lansio ledled y DU yn Reading, Caerdydd, Caeredin a Belfast, mae Dr Mhairi McVicar yn parhau â phrosiectau cydweithredol hirsefydlog rhwng Grangetown, Caerdydd a Phorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd.

 

Yn 2011, dechreuodd Prifysgol Caerdydd gynnal sgyrsiau gyda thrigolion Grangetown am ffyrdd y gallai cyrff a sefydliadau fel prifysgolion greu a chryfhau partneriaethau mewn ardaloedd lleol er mwyn datblygu prosiectau hirsefydlog, sydd o fudd i’r ddwy ochr, gydag effaith sylweddol. Gan geisio cydweithio a gwerthfawrogi egwyddorion ymchwilio, dechreuwyd prosiectau cydweithio, gan ganolbwyntio ar werthfawrogi’r hyn sydd eisoes yn bodoli, yn ffisegol ac yn ddiwylliannol, yn yr ardal. Wrth ddatblygu’r momentwm a’r adnoddau i ddod â syniadau dan arweiniad preswylwyr yn fyw, deallwyd bod ymgynghori’n fwy nag un digwyddiad. Yn Grangetown, mae degawd o ddigwyddiadau cyhoeddus blynyddol, gweithdai gyda grwpiau o oedrannau a diddordebau amrywiol, gweithgareddau partneriaethau rheolaidd ac arolygon blynyddol o flaenoriaethau wedi eistedd ochr yn ochr â sgyrsiau un-i-un parhaus, ac wedi arwain at ailddatblygu Pafiliwn Grange, cyfres o farchnadoedd stryd y byd yn Grangetown, wythnosau gyrfaoedd a modelau rôl blynyddol yn Grangetown, Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange wythnosol, prosiectau lonydd chwarae Grangetown sy’n datblygu, a llawer o rai eraill.

 

Pafiliwn y Grange, sef y syniad cyntaf a ddatblygwyd gyda’r Porth Cymunedol dan arweiniad trigolion dros y degawd diwethaf, fydd canolbwynt peilot CCQOL Caerdydd yn 2022. Mae CIO Pafiliwn Grange, sydd â 60% o’i aelodaeth o breswylwyr, gyda Phrifysgol Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro, Tai Taf, RSPB Cymru a Chlwb Rotari Bae Caerdydd fel partneriaid sefydliadol, wedi cymryd awenau prydles trosglwyddo asedau cymunedol 99 mlynedd y cyn bafiliwn bowlio a thiroedd mewn parc cymdogaeth poblogaidd, Gerddi Grange. Mae Pafiliwn Grange, a lansiwyd yn 2020, yn diffinio ei hun fel gofod hygyrch a chynhwysol i gefnogi prosiectau creadigol ac amrywiol a arweinir gan y gymuned. Gan gynnal digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd sy’n cynnwys y celfyddydau, iechyd ac addysg, mae Pafiliwn Grange, fel man dinesig sy’n cael ei gynnal a’i reoli gan gymuned, yn dod â ffocws ffisegol yng nghanol Grangetown i gynnal cyfres estynedig o sgyrsiau a phrosiectau cydweithio ar draws cymunedau yn yr ardal leol o ran ystyron ymgysylltu, cynnwys ac ymgynghori â’r gymuned, sut i gymhwyso hyn a goblygiadau gwneud hyn.

 

Mae’r sgyrsiau hyn yng nghyd-destun gofyniad statudol unigryw Cymru i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn manylu ar saith nod sy’n ei gwneud yn ofynnol, o dan y gyfraith, i gyrff cyhoeddus weithio ar y cyd tuag at wella llesiant Cymru. Mae Pum Ffordd o Weithio y Ddeddf — cydweithio, integreiddio, cynnwys, hirdymor ac atal — yn diffinio’r dull a gymerwyd yng Nghymru tuag at gynnal sgyrsiau cenedlaethol a chynnwys y cyhoedd ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Ar lefel leol, bydd ymrwymiadau Cyngor Caerdydd i Ddinas sy’n Croesawu Plant a Rhwydwaith Teithio Llesol, a datblygiad presennol Cynllun Datblygu Lleol Amnewid 2021 i 2036, yn cael eu harchwilio yn y cynllun peilot, ochr yn ochr â meysydd blaenoriaeth allweddol a ddiffinnir gan drigolion Grangetown mewn gweithdai ac arolygon dros y degawd olaf, gan gynnwys strydoedd glân a mannau gwyrdd, Grangetown Diogel, darpariaeth ar gyfer pobl ifanc a mannau cymunedol. Bydd peilot CCQOL Caerdydd yn ymgorffori’r Pum Ffordd o Weithio, gan gydweithio ar draws nifer o gymunedau Grangetown, tuag at gyflawni ffocws Cenedlaethau’r Dyfodol ar feddwl yn yr hirdymor ac mewn modd cydgysylltiedig er mwyn cyflawni dibenion cyffredin.